1 Vchel y bum yn ochi
2 Echnos na bai hir-nos hi
5 Echnos dyn goleu-dlos gwyl
6 wythnos fu vnnos fannwyl
3 A byrnos medd y beirniad
4 a gar gwenn heb vn gair gwâd
7 neithwyr y bum mewn vthr bwyll
8 nwyf gain gyd a nef gannwyll
9 Yn mynnu tâl am annun
10 Yn aml baich yn emyl bun
11 pan oedd ffyrfaf fyng-afael
12 a gorau 'mhwynt gwrm ei hael
13 Nychaf lenn awch aflonydd
14 Och wir dduw nycha wawr ddydd
15 Cyfot eb gwenn lenn liwloew
16 Cel hyn fel dyna'r cael hoew
17 Deigr ynnial dy garennydd
18 dos i ddiawl weldisso ddydd
21 lleuad a roes Duw llywydd
22 a ser yn ei chylch y sydd
23 hyn y dodaf henw didyb
24 honno y sydd dydd o dyb
25 Gwawr honnaid pe gwir hynny
26 paham y cân y frân fry
27 [20v] pryfed ysydd yn profi
28 lluddiaw ei hun ei lladd hi
29 mae cwn dan lef y dref dref
30 ac eraill yn ymguraw
31 Hawdd cael annog o agos
32 Cyni a wna cwn y nos
33 Paid ath escusawd, wawd-was
34 pell boen a fynaic pwyll bas
37 Er Crist cyfod yn ddistaw
38 Ac egor y drom-ddor draw
39 Yn ddidrwst cymer ddeu-droed
40 Rhydaer yw'r cwn rhed i'r coed
41 Ochan nid pell y gelli
42 A chynt wyf innau no chi
43 Onim gwyl ffel nim delir
44 O chann Duw ar hyn o dir
45 Dywaid ti fardd diwyd ta
46 Er duw i'm or doi yma
47 Deuaf mi yw dy eos
48 diau yn wir o daw nos
dd' ap Gwilym